in solution
David Barnes’ exhibition in solution captures some of the particularities, and peculiarities, of south Wales’ life. This new Ffotogallery commission, supported by the Arts Council of Wales and Caerphilly County Borough Council, reflects Barnes’ work over the last four years. As a continuation of his long-term preoccupation with life and history in the region, in solution explores the competing forces that can shape social identity and cultural change.
Barnes’ experimental approach to documentary connects disparate realms of experience, from the ritualised worlds of Freemasonry and similar organisations, to everyday life in rural settings and the globalised spaces of the factory or retail park. This is the first time a UK artist has been granted such long-term access to Masonic organisations and their meetings. Barnes mixes stills photography, video and collected objects to weave a rich, and at times surreal, tale about life in the South Wales Valleys and the areas bordering England.
Yn sgîl effeithiau economaidd a chymdeithasol dirywiad diwydiannau trwm y rhanbarth, mae cymunedau yn ne Cymru yn ailddiffinio’u hunain ar gyfer dyfodol newydd. Fodd bynnag, mae hen draddodiadau a sefydliadau’n parhau i ddal eu tir, ynghyd â defodau a ffyrdd neilltuol o ymddwyn.
Mae arddangosfa David Barnes, in solution , yn crisialu rhai agweddau neilltuol a hynod ar fywyd de Cymru. Mae’r comisiwn newydd hwn gan Ffotogallery, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn adlewyrchu gwaith Barnes dros y pedair blynedd diwethaf. Fel parhad o’i ddiddordeb hir-dymor ym mywyd a hanes y rhanbarth, mae in solution yn archwilio’r grymoedd a all ffurfio hunaniaeth gymdeithasol a newid diwylliannol.
Mae dull arbrofol Barnes o fynd ati i ddogfennu yn cysylltu profiadau anghymharus, o fyd defodol y Seiri Rhyddion a sefydliadau cyffelyb, at fywyd bob-dydd yng nghefn gwlad ac yng ngofodau globaleiddiedig y ffatri neu’r parc manwerthu. Dyma’r tro cyntaf y cafod artist Prydeinig y fath fynediad dros gyfnod hir i sefyliadau Saeryddol a’u cyfarfodydd. Mae Barnes yn cymysgu lluniau llonydd, fideo a gwrthrychau a gasglwyd i weu stori gyfoethog, a swreal ar brydiau, am fywyd yng nghymoedd de Cymru ac ardaloedd y ffin.
Meddai David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery:
“Mae David Barnes yn storïwr ardderchog, yn cyfleu’r dieithr â’r cyfarwydd. Mae’r arddangosofa hon yn cynnig persbectif ‘mewnol’ hynod ar rai arferion rhyfedd iawn y tu ôl i realiti bob-dydd yng Nghymru.”